![]() |
Dathliad C.F.F.I. Ceredigion yn 70 | |||
| Hafan Home • Sponsors Noddwyr | ||||
24ain a 25ain o Fehefin 2011 - Penwythnos Splash
Dechreuodd dathliadau C.Ff.I Ceredigion yn 70 oed gyda bang wrth gynnal penwythnos Splash ar gaeau Llanllyr, Talsarn. Bu’n benwythnos llwyddiannus gyda Rasus Moch a Gwibdaith Hen Fran yn ein diddanu ar y Nos Wener a Ddydd Sadwrn cynhaliwyd cystadleuaeth ‘It’s a Knockout’ yn y prynhawn ac yn yr hwyr bu band Hufen Iâ Poeth, Chip Shop Boys a Bryn Fôn yn perfformio ar y llwyfan. Diolch i bawb gwnaeth cefnogi’r penwythnos.
2il – Fedi - Sioe Ffasiynau Cynhelir Sioe Ffasiynau Nos Wener, 2il o Fedi ym Mhrifysgol Drindod Dewi Sant am 7.30yh. Sioe Ffasiwn ffasiwn arbennig bydd hwn yn dangos casgliad o ffrogiau cyn Frenhinesau a chyn Forwynion C.Ff.I Ceredigion. Bydd y tocynnau yn £7 gan gynnwys caws a gwin. Bydd yr elw yn mynd tuag at gefnogi gweithgareddau a datblygiad CFfI Ceredigion. Cysylltwch â’r swyddfa ar 01545 571333
13eg,14eg,15fed o Fedi - Sioe’r Dathlu Cynhaliwyd Sioe arbennig a chyffrous o’r enw ‘Odi ni na to?’ gan Mererid James o glwb Talybont, Catrin Haf Jones o glwb Mydroilyn, Lowri Jones o glwb Caerwedros a Rhian Wyn Jones o glwb Tregaron dan arweiniad Euros Lewis a Dwynwen Lloyd Evans.
Cynhaliwyd 3 noson llwyddiannus yn Theatr Felinfach gyda’r theatr dan ei sang bob nos. Braf oedd gweld aelodau ar draws y sir yn mwynhau perfformio gyda’i gilydd yn hytrach na chystadlu yn erbyn ei gilydd.
Diolch i Dunbia, Llanybydder am fod yn brif Noddwr y Sioe a hefyd i Principality am y grant.
Cysylltwch â’r swyddfa os ydych am archebu DVD o’r Sioe am £5.
23ain o Dachwedd - Lawnsio Llyfr Dathlu
4ydd o Ragfyr - Cymanfa Dathlu
30ain o Fehefin 2012 - Cinio’r Dathlu
|
||||